Mae cân gan grŵp o ogledd Cymru wedi ei ddewis fel cerddoriaeth thema’r rhaglen bêl droed BBC 1, ‘Footbal Focus’ ar gyfer y tymor newydd.

Fe fydd y gân ‘Undegpedwar’ gan Y Niwl yn dod yn gyfarwydd iawn i filiynau o bobol sy’n dilyn pêl-droed ym Mhrydain wedi iddi gael ei dewis fel cerddoriaeth intro y rhaglen boblogaidd.

Ymwybodol o’r grŵp ers amser

Fe wnaeth y gân ei hymddangosiad cyntaf ar Football Focus bnawn Sadwrn diwethaf, a bydd yn cael ei chwarae ar ddechrau’r rhaglen am weddill y tymor.

“Ddaru’r BBC ddefnyddio un o ganeuon Y Niwl mewn promo i hysbysebu gêm Cymru yn erbyn Lloegr nôl ym mis Mawrth felly mae cynhyrchwyr y gyfres yn ymwybodol o’r Niwl ers tipyn,” meddai Siôn Glyn o’r grŵp wrth Golwg 360.

“Tua mis yn ôl fe wnaeth Football Focus gysylltu efo ni i ddeud eu bod yn cysidro defnyddio Undegpedwar fel y theme tune newydd.”

“Cwpl o ddyddiau cyn iddo gael ei ddarlledu fe roddon nhw wybod i ni eu bod am ei ddefnyddio” ychwanegodd y gitarydd.



Braint

Mae’r Niwl wedi cael cyfnod llwyddiannus dros ben ers rhyddhau eu halbwm cyntaf ym mis Rhagfyr llynedd.

Yn ogystal â chael cyfle i deithio ledled y byd gyda Gruff Rhys o’r Super Furry Animals, maen nhw wedi cael llwyth o adolygiadau cadarnhaol yn y wasg Brydeinig.

Er hynny, mae’r datblygiad diweddaraf yn siŵr o fod yn hwb mawr i’r grŵp syrff o’r gogledd.

“Mae’n uffar o fraint yn fwy na dim i gael ein dewis” meddai Siôn Glyn.

“Da ni gyd yn gefnogwyr brwd o bêl-droed ac wedi bod yn gwylio Football Focus ers blynyddoedd. Mae o hefyd yn exposure anhygoel i ni fel band.”

Mynd a cherddoriaeth tu hwnt i Gymru

Mae’r Niwl wedi bod yn gweithio’n galed i gael sylw y tu hwnt i Gymru fach, ac mae’n ymddangos fod y gwaith caled wedi talu ei ffordd.

Yn ôl Siôn Gly, sy’n gyn aelod o’r grŵp llwyddiannus Topper, mae’n bwysig fod grwpiau o Gymru’n cyrraedd cynulleidfa ehangach â’u cerddoriaeth.

“Mae’n bwysig bod cerddoriaeth o Gymru’n cael ei glywed ym mhob man posib a ddim jyst wedi ei gyfyngu i’r wlad hon.”