Rebekah Brooks a Rupert Murdoch (Gwifren PA)
Fe gafodd cyn bennaeth News International ei rhyddhau ar fechnïaeth ar ôl cael ei holi am 12 awr gan Heddlu Llundain.

Yn awr, mae amheuaeth am allu Rebekah Brooks i ateb cwestiynau pan fydd yn ymddangos o flaen pwyllgor dethol yn y Senedd fory.

Ddeuddydd ar ôl iddi ymddiswyddo o fod yn brif weithredwr y cwmni papurau, fe gafodd Rebekah Brooks ei harestio’n ffurfiol ar ôl mynd i gyfarfod mewn swyddfa heddlu.

Fe gafodd ei holi ynghylch y sgandal hacio i ffonau symudol a thros honiadau bod newyddiadurwyr y News of the World wedi bod yn talu i blismyn am wybodaeth.

Pwyllgor Dethol

Mae Rebekah Brooks a’i chyn benaethiaid, Rupert a James Murdoch, yn ymddangos o flaen y Pwyllgor Dethol ar Ddiwylliant fory, ond fe allai’r arestio gyfyngu ychydig ar yr atebion y bydd yn fodlon eu rhoi.

Mae disgwyl y bydd Rupert Murdoch ei hun yn dod dan bwysau i ddweud faint yr oedd  ef ei hun yn ei wybod am y ddau bwnc.

Fe fydd ASau hefyd eisiau gwybod pam bod cynrychiolwyr y cwmni heb ddweud y gwir wrthyn nhw mewn ymchwiliadau cynharach.