Michael Caine
Mae’r actor, Syr Michael Caine, wedi gwneud jôc o’r sgandal hacio ffonau symudol – gan herio newyddiadurwyr i ddarganfod unrhyw beth diddorol yn ei sgyrsiau personol ef.
Roedd yr actor 73 mlwydd oed ar y carped coch ar gyfer premiere ffilm ddiweddara’ Disney, Cars 2, yn Whitehall Gardens, Llundain, pan wnaeth y sylwadau.
Tra’r oedd yn disgrifio’r sgandal fel “peth ofnadwy”, newidiodd y cywair yn syth wrth ofyn, “Ydan ni’n mynd i golli teledu Sky oherwydd hyn? Dw i’n caru Sky Sports.
“Ond dw i wastad wedi credu y dylai pobol gael eu dwyn o flaen eu gwell, ac y dylai cyfiawnder gael ei weithredu.”
“Mae carfan fechan o’r holl bleidiau, yr heddlu, y wasg a’r llywodraeth ar fai yn hyn, ac mae’n rhaid cael gwared arnyn nhw,” meddai Michael Caine.
“Ond os fyddech chi’n hacio fy ffôn i, mae’n beryg y byddech chi’n syrthio i gysgu.”