Streic flaenorol yn y BBC
Mae’r BBC yn wynebu rhagor o weithredu diwydiannol yr haf yma wrth i aelodau undeb newyddiadurwyr yr NUJ bleidleisio o blaid streicio.
Dyma fyddai’r streic gyntaf ers yr anghydfod diwydiannol ddechrau mis Tachwedd y llynedd.
Bryd hynny effeithiodd y streic ar y gwasanaethau Cymraeg, a bu’n rhaid darlledu bwletinau byr yn hytrach na’r rhaglenni arferol.
Mae’r newyddiadurwyr yn protestio yn erbyn diswyddiadau gorfodol yng ngwasanaeth World Service y gorfforaeth.
Awgrymodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Michelle Stanistreet, y galli’r aelodau streicio ar Orffennaf 15 a 29.
Pleidleisiodd 72% o aelodau’r undeb o blaid streic, a 87% o blaid ryw fath o weithredu diwydiannol os nad oedden nhw’n streicio.
Roedd llai na 40% o aelodau’r undeb wedi pleidleisio.
“Rydyn ni’n nodi fod aelod o undeb y newyddiadurwyr wedi ei ddiswyddo’n orfodol fis diwethaf, er gwaetha’r ffaith fod modd ei adleoli,” meddai’r undeb.
“Rydyn ni’n benderfynol na ddylai aelodau’r NUJ gael eu diswyddo’n orfodol ac yn galw ar y BBC i ddatrys unrhyw achosion amlwg.”
Ychwanegodd yr undeb fod “cyflogau gweithredwyr ar y brig yn annerbyniol” ar adeg pan oedd eu haelodau nhw yn cael eu bygwth â diswyddiadau gorfodol.
Dywedodd cyfarwyddwr BBC News, Helen Boaden, eu bod nhw wedi gwneud “popeth o fewn eu gallu i osgoi diswyddiadau gorfodol”.