Leanne Wood
Leanne Wood yw’r Aelod Cynulliad cyntaf i ddweud na fydd yn talu’r trwydded teledu.
Dywedodd mai pryder am ddyfodol S4C oedd y rheswm iddi benderfynu peidio a thalu’r drwydded.
Ond dywedodd nad oedd hi am “amddiffyn beth oedd yno nawr” gan fynnu bod angen newid ar y sianel yn y dyfodol.
“Mae angen newid (ar S4C). Mae e’n cael ei weld fel ei bod yn cael ei rhedeg gan y crachach ers gormod o amser ac ma nhw wedi methu symud gyda’r amser,” meddai.
“Felly dyw e ddim i wneud gydag amddiffyn beth sydd yna nawr. Mae e yn ymwneud gyda’r egwyddor o gadw sianel trwy’r iaith Gymraeg sydd yn rhywbeth pwysig i’w amddiffyn,” meddai.
Dywedodd ei fod hi’n derbyn na fydd peidio a thalu’r drwydded yn cael effaith pellgyrhaeddol ond ei fod yn fater o egwyddor.
“Fe allwn ni ofyn a ydi unrhyw ymgyrch am wneud gwahaniaeth, ydi e yn newid unrhywbeth ond fi’n meddwl mai beth sy’n bwysig yw ein bod ni yn trio,” meddai.
“Gobeithio y bydd yr ymgyrch gyfan yn gweld llwyddiant. Ar hyn o bryd mae dyfodol y sianel mewn peryg gwirioneddol.
“Rwy’n rhagweld y bydda i’n cael fy meirniadu am wneud hyn, jest fel fi di cael beirniadaeth am safiade erill dw i wedi eu cymeryd yn y gorffennol ond dwi’n teimlo bod hwn yn ffordd ddilys o brotestio a dyna pam fi di ychwanegu fy enw.”
Carchar?
Fe fydd Leanne Wood yn torri’r gyfraith trwy wrthod talu’r drwydded. Ond dyw hi ddim yn barod i ddweud naill ffordd neu’r llall os y byddai yn fodlon mynd i’r carchar dros yr achos.
“Fe fydden i yn dweud, ar hyn o bryd, nad yw e’n rhywbeth fydden i yn diystyrru. Ond nid dyma’r ysgogiad tu ol i’r ymgyrch,” meddai.
“Codi ymwybyddiaeth yw’r nod a gobeithio y bydda i yn gallu cael sicrwydd am ddyfodol S4C cyn ei fod e’n cyrraedd y pwynt yna.”
Croesawu
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad Leanne Wood.
“Rydyn ni’n falch bod rhai ACau yn dechrau sefyll lan dros ein hunig sianel deledu Gymraeg,” meddai Bethan Williams Cadeirydd y Gymdeithas.
“Mae’r sianel yn wynebu toriadau i’w chyllid o dros 40% mewn termau real, cael ei thraflyncu gan y BBC a gweld y grymoedd i gael gwared â hi yn llwyr yn cael eu rhoi yn nwylo Gweinidogion San Steffan. Mae’r llywodraeth yn arbed 94% o’r arian oedden nhw’n arfer talu i’r sianel, toriad sydd yn gwbl annheg.
Bydd hi’n amhosib sicrhau annibyniaeth S4C o dan gynllun arfaethedig y Llywodraeth i gyllido S4C drwy’r BBC.
“Rydyn ni nawr yn gwybod pe bai’r BBC wedi gwrthod y syniad yma na fyddai bygythiad i annibyniaeth y sianel.
“Y gwir anffodus yw nad oedd penaethiaid y BBC yn Llundain yn poeni dim am S4C, a dyna pam rydyn mewn sefyllfa mor argyfyngus ar hyn o bryd.”