Mae ymgyrchwyr dros bobl anabl yn ystyried cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y Llywodraeth ynghylch toriadau arfaethedig i’r Lwfans Byw i’r Anabl.
Dywed Neil Coyle, cyfarwyddwr polisi’r mudiad Disability Alliance, y gall fod y Llywodraeth yn torri deddfwriaeth Brydeinig ac Ewropeaidd os na bydd yn ystyried effaith y toriadau ar bobl anabl.
Mae’r mudiad yn pryderu y bydd cynlluniau’r llywodraeth i dorri £2 biliwn ar wario ar fudd-daliadau’n effeithio’n waeth ar bobl anabl a’u teuluoedd nag ar bobl eraill.
Mae’r Disability Alliance wedi anfon llythyr at yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eu rhybuddio’n ffurfiol y byddan nhw’n dwyn achos yn eu herbyn oni bai fod yr adran yn gallu dangos eu bod nhw’n rhoi sylw i bryderon pobl anabl.