Cafodd chwech o blismyn eu hanafu a saith o bobl eu harestio mewn helyntion dros nos yn nwyrain Belfast.
Fe fu ymladd yn ardal Stryd Castlereagh a Ffordd Albertbridge yn dilyn gorymdaith fach a oedd yn rhagflas o un o’r gorymdeithiau mawr wythnos i ddydd Mawrth – 12 Gorffennaf.
Cafodd cerbydau heddlu eu difrodi a chafodd cerrig eu taflu at blismyn a oedd yn ceisio tawelu’r helynt.
Dyw Heddlu Gogledd Iwerddon fodd bynnag ddim yn credu mai parafilwyr oedd y tu ôl i’r helynt.
Meddai’r Prif Arolygydd Mark McEwan:
“O’r hyn y gallwn ni ei weld, doedd dim elfen barafilwrol i’r hyn a ddigwyddodd neithiwr. Roedd y trais yn ddigymell, roedd yn deillio o nifer o bobl o fewn ardal Stryd Castlereagh yn ymosod ar yr heddlu, a hynny wedi cael ei danio gan dorfeydd yn ymgasglu bob ochr.”
‘Anhrefn sylweddol’
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Iwerddon fod “anhrefn sylweddol” yn y ddinas.
Fe ddefnyddiodd yr heddlu fwledi rwber a chanon dŵr i geisio gwasgaru’r dorf, gan lwyddo i dawelu pethau erbyn oriau mân y bore.
Dywedodd y llefarydd fod saith o bobl wedi cael eu harestio am ymddygiad afreolus, a bod y plismyn wedi cael eu hanafu wrth i fechgyn ifanc daflu cerrig atyn nhw. Ychwanegodd nad yw eu hanafiadau’n perygu eu bywydau.