Mae rhagor o weithredu diwydiannol wedi dechrau heddiw wrth i’r ffrae dros bensiynau’r sector gyhoeddus barhau, gyda’r streic fwyaf ers pum mlynedd ddoe.

Roedd miloedd o weithiwyr sifil, athrawon a gweithwyr eraill ledled Prydain wedi bod ar streic 24 awr ddoe. Cafodd y streic ei threfnu mewn protest yn erbyn newidiadau dadleuol i gynlluniau pensiwn.

Bellach, mae aelodau Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol wedi dechrau cynnal gwaharddiad ar weithio goramser – sydd i fod i barhau am fis. Mae’r undeb yn dweud y bydd y weithred yn siŵr o gael effaith ar wasanaethau’r Llywodraeth.

Streic dda

Fe ddywedodd Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol ddoe mai dyma’r streic fwyaf llwyddiannus iddyn nhw erioed ei chynnal. Roedden nhw’n dweud bod mwy na  200,000 o’u haelodau wedi bod ar streic.

Ond mae’r Llywodraeth wedi codi amheuon am y ffigwr hwn ac yn dweud fod llai na hanner aelodau’r undeb wedi cymryd rhan yn y streic mewn gwirionedd.

Mae Gweinidogion yn dweud y dylai gweithwyr y sector gyhoeddus dalu mwy i mewn i bensiynau a gweithio’n hirach, ond mae undebau’n dadlau fod y newidiadau yn annheg.