Cartref Llywodraeth Cymru
 
Mae Llywodraeth Cymru yn hwyluso mwy o fewnlifiad i ogledd Cymru gan sicrhau chwalfa’r cymunedau yno.

Dyna mae’r Aelod Cynulliad Llyr Huws Gruffydd wedi ei ddweud wrth y cylchgrawn Golwg yr wythnos hon, mewn ymateb i gyfaddefiad Llywodraeth Cymru ei hun bod yr angen am dai yn seiliedig ar faint o fewnfudo sydd wedi bod yn y pum mlynedd olaf.

Yn Sir Ddinbych – ble mae rali i wrthwynebu cynlluniau codi tai yn Rhuthun yfory – mae’r Llywodraeth yn rhagweld cynnydd yn y boblogaeth o 600 y flwyddyn, ond eto yn Sir y Fflint gyfagos maen nhw’n rhagweld cwymp o 100 y flwyddyn yn y boblogaeth.

Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif nifer y tai newydd sydd eu hangen yn ôl y cynnydd maen nhw’n ragweld yn y boblogaeth.

“Mae’r rhagdybiaeth hyn yn seiliedig ar dueddiadau’r gorffennol ac mae maint ymfudo yn y dyfodol yn seiliedig ar y wybodaeth am y niferoedd fu’n ymfudo dros y bum mlynedd ola’,” meddai llefarydd y Llywodraeth.

Oherwydd bod Sir Ddinbych wedi gweld nifer sylweddol o bobol yn symud i fyw i lefydd fel y Rhyl a’r glannau, mae Llyr Huws Gruffydd yn ofni bod polisi codi tai Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol yn mynd i olygu straen ychwanegol ar gymdeithas yno.

“Mae’r amcanion poblogaeth syn seiliedig ar y dyb y bydd y mewnlifiad sylweddol diweddar yn parhau i’r un graddau,” meddai wrth gylchgrawn Golwg.

“Wrth gwrs, os ydych chi’n adeiladu tai ar gyfer y mewnlifiad yna mae’n ei gwneud yn haws iddo barhau! Mae’n sefyllfa ryfeddol lle mae Llywodraeth Cymru yn gorfodi cynghorau i gynllunio ar gyfer tranc cymunedau lleol.”

‘Stadau cymudo enfawr ar hyd yr A55’

Mae Aelodau Cynulliad Plaid Cymru yn cyhuddo Llywodraeth Cymru o esgeuluso pobol leol er lles datblygwyr tai, ar drothwy protest ynglŷn â’r penderfyniad i ganiatau adeiladu 1,715 o dai ym Modelwyddan a threblu maint y pentref ym Modelwyddan.

“Bodelwyddan ydi’r gwaethaf o nifer fawr o enghreifftiau o or-ddatblygu ar hyd y Gogledd,” meddai Llyr Huws Gruffydd.

“Mae yna fwriad i godi 200 o dai newydd yn Llanfairfechan, 800 yn Abergele a 140 ym Mhenyffordd. Ar hyd a lled y Gogledd, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gorfodi mwy a mwy o dai ar ein cynghorau lleol. Does dim angen lleol am y tai yma…”

Ychwanegodd bod Llywodraeth Cymru yn hybu “stadau cymudo enfawr ar hyd yr A55” er mwyn i bobol  fyw yng ngogledd Cymru, ond gweithio yn Lloegr.

“Ar hyd a lled y Gogledd, mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gorfodi mwy a mwy o dai ar ein cynghorau lleol,” meddai. “Does dim angen lleol am y tai yma.”

Bydd y brotest tu allan i Neuadd y Sir yn Rhuthun yfory yn cael ei chynnal ar y cyd rhwng Cymdeithas yr Iaith a Grŵp Gweithredu Bodelwyddan – sydd wedi ei sefydlu gan bobol leol er mwyn gwrthwynebu’r datblygiad.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am “newid radical” yn y sustem gynllunio– ac yn dweud fod y drefn bresennol yn peryglu cymunedau Cymreig Gogledd Cymru.

Dywedodd Hywel Griffiths, llefarydd cymunedau’r gymdeithas, mai “gwneud elw ydy prif fwriad cynllun tai Bodelwyddan gan gwmni Americanaidd a fyddai’n treblu maint y pentref, dim gwasanaethu’r gymuned.

“Mae ein cymunedau Cymraeg ar fin diflannu am byth yn rhannol oherwydd cynlluniau fel hyn.

“Unwaith eto, mae datblygiadau tai ar gyfer cymudwyr fel hyn yn dangos diffygion mawr y sustem cynllunio bresennol.

“Mae angen symud i ffwrdd o sustem sydd yn annog pobl i gymudo yn bell i’r gwaith. Mae angen creu cymunedau sydd yn gynaliadwy yn economaidd, amaethyddol ac yn ieithyddol.”

Mae Cyngor Sir Dinbych wedi dweud eu bod yn rhagweld y bydd angen codi 7,500 o dai ychwanegol yn y sir erbyn 2021. Mae’r amcangyfrif hwn yn cael ei amau gan llawer o’r gwrthwynebwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Golwg 360 nad oedd hi’n gwybod dim am brotest yn erbyn y cynlluniau ddydd Sadwrn, ond fod “rhai wedi bod yn cwestiynnu’r ffigyrau rydyn ni wedi eu darparu yn Ninbych a Fflint” ynglŷn â niferoedd y boblogaeth.

Mwy am y pryderon yn y rhifyn cyfredol o gylchgrawn Golwg.