Mae angen i aelodau pwyllgor trwyddedu’r rheoleiddiwr darlledu Ofcom “ddangos eu dannedd” a gwrthod cais i Seisnigo’r arlwy ar Radio Ceredigion, yn ôl Cadeirydd Cyfeillion yr orsaf.
Ac nid yw Geraint Davies yn poeni nad oes yr un Cymro ar y pwyllgor trwyddedu Ofcom fydd yn ystyried cais perchnogion Radio Ceredigion, i gael gwared ar yr amod i gynnig arlwy gytbwys ddwyieithog, ddydd Llun nesaf yn Llundain.
Mae Ofcom wedi bod yn ymgynghori ar gais cwmni Town and Country Broadcasting i newid amodau’r drwydded i gynnwys awr o ddarlledu yn yr iaith Gymraeg yn ystod y dydd.
“Rydan ni’n galw ar Ofcom i wneud penderfyniad yn seiliedig ar y nifer uchel yr ymatebion sydd wedi’ datgan yn glir a phendant nad ydyn nhw am weld newidiadau i batrwm ieithyddol yr orsaf. Mae’r neges yn glir,” meddai Geraint Davies, Cadeirydd Cyfeillion Radio Ceredigion wrth Golwg360.
“Rydw i hefyd yn galw ar Ofcom i sicrhau bod Town and Country Broadcasting yn cadw at y patrwm ieithyddol fel mae o i fod. Dydyn nhw ddim yn cadw at y fformat hanner a hanner Cymraeg a Saesneg ar hyn o bryd. Mae eisiau i Ofcom ddangos eu dannedd,” meddai.
“Gyda’r ymgynghoriad wedi datgan barn pobl mor bendant, rydw i’n barod i ymddiried yn Ofcom fel corff cyhoeddus i ymateb yn bositif i’r ymgynghoriad. Os na wnawn nhw, fe fydda i’n siomedig ac yn credu bod Ofcom wedi methu yn eu cyfrifoldeb fel rheoleiddiwr y diwydiant darlledu yng Nghrymu.”
Y cefndir
Ddydd Llun fe fydd Pwyllgor Trwyddedu Ofcom yn ystyried cais i newid amodau trwydded Radio Ceredigion.
Mae perchennog Radio Ceredigion, cwmni Town and Country Broadcasting, am newid telerau’r drwydded sydd ar hyn o bryd yn disgwyl i hanner rhaglenni’r orsaf ddwyieithog gael eu darlledu yn yr iaith Gymraeg a’r hanner arall yn Saesneg.
Maen nhw am gael yr hawl i ddarparu awr o radio masnachol yn yr iaith Gymraeg pob dydd o’r wythnos yng Ngheredigion, sir ble mae 51.8% o bobl yn i siarad Cymraeg, yn ôl cyfrifiad 2001. Mae’r cwmni hefyd am ostwng y ganran o gerddoriaeth Gymraeg sy’n cael ei chwarae ar yr orsaf.
Eisoes, mae Ofcom wedi cynnal ymgynghoriad ar y mater gan gasglu barn y cyhoedd. Bydd y rheoleiddiwr yn trafod ymatebion yr ymgynghoriad ddydd Llun ac yn dod i benderfyniad am yr achos “yn fuan.” Nid oes amserlen bendant ar gyfer datganiad o benderfyniad, meddai Ofcom Cymru.
Dim Cymry ar banel Ofcom
Er nad oes Cymro’n eistedd ar Bwyllgor Trwyddedu Ofcom ddydd Llun, fe ddywedodd llefarydd ar ran y rheoleiddiwr wrth Golwg360 fod y “tîm radio yn Llundain yn ymgynghori gyda Swyddfa Ofcom yng Nghymru” ar faterion ac mai un o’u “prif ddyletswyddau” yw “sicrhau llais i faterion Cymreig yng Nghymru.”
Fe ddywedodd Geraint Davies ei fod yn “mawr obeithio bydd gan Ofcom swyddogion i roi’r neges parthed y Gymraeg yn yr achos hwn”.
Yn ôl llefarydd ar ran Ofcom “bydd y drafodaeth (Ddydd Llun) am ymatebion ac am natur yr ymatebion,” cyn dweud y bydd y Pwyllgor yn mynd ati yn “fuan” wedyn i gyhoeddi datganiad o benderfyniad ar y mater.
Dywedodd mai “ymatebion i’r ymgynghoriad” fydd “angor y drafodaeth ddydd Llun” .
Mae Ofcom wedi cael mwy o ymatebion i’r ymgynghoriad hwn nac i unrhyw ymgynghoriad tebyg yn y gorffennol, meddai’r rheoleiddiwr.