Mae Heddlu Dyfed Powys yn ymchwilio ar ôl i ladron dorri fewn i siop esgidiau yn Rhydaman.

Roedd lladron wedi mynd i mewn drwy do siop esgidiau Stead and Simpson yn Quay Street, Rhydaman, rhwng 5.30pm ar ddydd Sadwrn 25 Mehefin a 8.20am ar ddydd Llun 27 Mehefin, ac wedi dwyn sêff ag arian ynddo.

“Mae pwy bynnag sy’n gyfrifol wedi tynnu teils y to o’u lle  i gael mynediad i lawr i’r siop,” meddai Teresa Ross o’r Heddlu.

“Yna, maen nhw wedi mynd i mewn i’r ystafell stoc yn y cefn a chymryd y sêff.”

Fe ddylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Rhydaman ar 101.