meddygGallai doctoriaid fynd ar streic cyn hir, wedi i undeb doctoriaid gynnal pleidlais mewn ymateb i gynlluniau’r Llywodraeth i newid sustem bensiynau’r Gwasanaeth Iechyd.
Daw’r cyhoeddiad gan y Cyngor Meddygol Prydeinig (BMA) ar ôl i aelodau bleidleisio o blaid ‘ystyried’ gweithredu diwydianol.
Mae’r cyhoeddiad hefyd yn cyd-daro â diwrnod o streicio ar draws Prydain gan gannoedd o filoedd o weithwyr eraill yn y sector gyhoeddus, dros gynlluniau i newid eu sustem bensiynau gwladol.
Yn ôl swyddogion y Cyngor Meddygol mi fyddai newidiadau i gynllun pensiwn y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn golygu bod staff yn talu mwy ac yn gweithio’n hirach, ond yn derbyn llai.
“Mae’r llywodraeth wedi tybio bod y ffaith ein bod yn byw deng mlynedd yn hirach yn golygu ein bod ni’n gallu gweithio deg mlynedd yn hirach,” meddai.
“Fyddech chi’n hapus i weld niwrofeddyg 68 oed yn tyrchu tu fewn eich penglog chi?”
Yn ôl Adran Iechyd San Steffan, fe fyddai unrhyw newid yn y system yn canolbwyntio ar fod yn fforddiadwy, yn ogystal â bod yn deg i’r Gwasanaeth Iechyd a’r treth-dalwr.
Ond dywedodd Andrew Dearden, Cadeirydd Pwyllgor Pensiynau’r Cyngor Meddygol, fod llawer yn poeni gan fod y Llywodraeth wedi gwrthod dechrau trafod â’r undeb.
“Mae ein neges yn syml – rydyn ni eisiau sgwrs synhwyrol am ein pensiynau,” meddai.
Rhybuddiodd y gallai’r newidiadau arwain at ddoctoriaid yn gadael system bensiynau Gwasanaeth Iechyd y Llywodraeth, gan dynnu biliynau o bunnoedd allan o bwrs y Trysorlys, neu ddechrau gweithredu diwydiannol.
“Er bod y mater yn un sy’n effeithio ar bobol yn emosiynol, gweithredu diwydiannol fyddai’r dewis olaf i ni. Mae doctoriaid yn rhoi eu cleifion yn gyntaf ar bob achlysur.
“Byddai hwn byth yn benderfyniad ysgafn i ni ei gymryd.”