John Prescott
Mae’r Arglwydd Prescott wedi dweud nad ydy Rupert Murdoch yn “berson cywir a chymwys” i gymryd perchnogaeth o’r darlledwr lloeren BSkyB.

Mi lambastiodd y cyn-Ddirprwy Brif Weinidog Llafur y penderfyniad amodol gan y Gweinidog Diwylliant Jeremy Hunt i dderbyn cynlluniau Murdoch i brynu BSkyB.

Yn cyfeirio at ran un o bapurau Rupert Murdoch, sef The News of The World, yn yr honiadau bod newyddiadurwyr wedi hacio i ffonau symudol pobl enwog a dylanwadol, fe ddywedodd yr Arglwydd Prescott wrth Dŷ’r Arglwyddi: “Nid yw’r dyn hwn, yn fy nhyb i, yn berson cywir a chymwys i brynu’r fath gwmni.”

Mae Jeremy Hunt wedi cytuno i gynnig fydd yn golygu bod Sky News yn cael ei gynnal fel cwmni sy’n annibynnol o weddill BSkyB, er mwyn tawelu ofnau y byddai’r ddêl yn rhoi gormod o ddylanwad i gwmni News Corporation Rupert Murdoch dros bapurau newydd a’r cyfryngau ym Mhrydain.

Mae Llywodraeth Prydain yn ymgynghori ar y mater hyd at hanner dydd ar Orffennaf yr wythfed, ac wedyn bydd Jeremy Hunt yn penderfynu’n derfynol os yw am adael i Murdoch brynu BSkyB neu gyfeirio’r mater at y Comisiwn Cystadleuaeth.

Mae Rupert Mourdoch, sydd biau The Sun a The Times, eisiau prynu 61% o gyfranddaliadau BSkyB nad ydynt eisoes yn ei feddiant.

Y sefyllfa wedi newid

Yn ôl yr Arglwydd Prescott mae’r sefyllfa wedi newid yn arwyddocaol ers i’r Llywodraeth roi bendith amodol ar gais Rupert Murdoch i brynu BSkyB fis Mawrth.

Yn cyfeirio at y sgandal hacio ffonau, fe ddywedodd: “Mae llawer o bethau eraill wedi newid yn awr, nid y lleiaf onyn nhw’r cyfaddefiad nad dim ond un newyddiadurwr oedd wrthi ar ei ben ei hun. Mae newyddiadurwyr eraill wedi eu harestio am weithio i bapurau newydd Murdoch a chyflawni’r troseddau hyn.

“Hefyd, fe wyddwn bod yna brif weithredwr yn awr wedi cyfaddef bod papurau newydd Murdoch yn talu’r heddlu am wybodaeth.

“Dyma’r cwmni rydan ni nawr yn ystyried rhoi darlledwr mawr i’w feddiant. Ar ben hyn mae Mr Murdoch ei hun, trwy setlo achos gyda Sienna Miller, nid yn unig wedi ymddiheuro ond yn awr wedi cyfaddef nad oedden nhw wedi darparu’r holl wybodaeth.

“Mae peidio â datgelu gwybodaeth yn anghyfreithlon yn ôl ein deddfau ni hefyd.

“Rhan fechan yw plwraliaeth [y wasg a’r cyfryngau], mae hygrededd y person sydd am brynu yn fater hollbwysig i ni ddelio ag o,” ychwanegodd yr Arglwydd Prescott.