Carwyn Jones
Polisïau Llywodraeth Prydain ar yr economi a budd-daliadau sy’n gyfrifol am y cynnydd yn y nifer o bobl ddi-gartref.

Dyna ddywedodd Prif Weinidog Cymru wrth annerch Cynhadledd Haf y mudiad Shelter Cymru yn Abertawe y bore yma.

Roedd Carwyn Jones yn gweld bai ar y Glymblaid Con-Dem am waethygu bywydau pobol yng Nghymru.

Ond mae Swyddfa Cymru wedi cyhuddo Prif Weinidog Llywodraeth Cymru o fynd ati’n fwriadol i greu ffrae gyda Llywodraeth Prydain.

Yn ôl Carwyn Jones mae lefelau digartrefedd yng Nghymru wedi cynyddu oherwydd “y creisus economaidd hirfaith”.

“Rwy’n credu bod polisïau diwygio’r sustem fudd-daliadau a’r rhai ar yr economi yn gam yn ôl, ac yn gwneud y sefyllfa yn waeth,” meddai.

“Mae ganddo ni gyfrifoldeb i amddiffyn holl bobloedd Cymru, yn enwedig y mwya’ bregus – yn aml eu llais nhw sy’ fwya’ tawel.”

Roedd Prif Weinidog Cymru hefyd yn dweud bod diwygio’r wladwriaeth les a newidiadau i’r budd-dal tai – wedi ei gyplysu â thorri swyddi’r sector gyhoeddus a chostau byw cynyddol uwch – yn golygu caledi ychwanegol i gymunedau ar hyd a lled y wlad.

Carwyn ar fai am bigo ffeit

Fe ddywedodd y Swyddfa Gymreig bod Llywodraeth Prydain yn barhau’n driw i’r ymrwymiad i leihau’r diffyg ariannol.

“Mae’n siomedig bod Prif Weinidog Cymru unwaith eto’n chwilio am ffrae yn hytrach na chydweithio gyda Llywodraeth Prydain,” meddai llefarydd.

“Ryda ni wedi pwysleisio droeon y gall llywodraethau Prydain a Chymru gydweithio i fynd i’r afael â phroblemau economaidd a chymdeithasol sy’n wynebu’r Cymry heddiw.

 “Hefyd fe ddylai Carwyn Jones gael gair gyda’i Foss sydd wedi dweud bod y Llywodraeth Lafur [Brydeinig] olaf wedi methu gwneud digon i ddiwygio’r sustem fudd-daliadau. Mae hyd’noed Ed Milliband yn cyfadde’ bod pobol wedi cael llond bol o’r rhai hynny sy’n medru gweithio, ond yn dewis peidio.”