Cymru sydd wedi gweld y gostyngiad mwya’ o ran pobol yn marw ar y ffyrdd ym Mhrydain rhwng 2009 a 2010, yn ôl ffigyrau a gyhoeddwyd gan Adran Drafnidiaeth San Steffan heddiw.

Cafodd 95 o bobol eu lladd ar ffyrdd Cymru yn 2010, o’i gymharu â 126 yn 2009 – gostyngiad o 24.6%.

Yn yr un cyfnod bu gostyngiad o 3.7% yn y nifer o bobol a gafodd eu lladd mewn damweiniau ffyrdd yn yr Alban, tra bod y nifer yn Lloegr wedi gostwng 17.3%.

Mae’r ffigyrau’n dangos fod nifer y damweiniau a’r marwolaethau ar ffyrdd Cymru, ac ar draws Prydain, yn parhau i ostwng – ac wedi cyrraedd y lefel isaf erioed ers i’r cofnodion ddechrau yn 1926.

Yn ogystal mae’r ffigyrau yn dangos fod nifer o damweiniau ffyrdd cyffredinol a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru wedi disgyn 3.8% rhwng 2009 a 2010, ac wedi disgyn 6% ar draws Prydain.

Roedd y cyfanwsm o bobol wedi eu lladd neu eu hanafu’n difrifol yng Nghymru yn 2010 yn 1,093 – 10.5% yn is nag yn 2009.

Roedd y nifer o ddamweiniau, yn cynnwys mân anafiadau, anafiadau mwy difrifol a marwolaeth, yn 9,969 y llynedd, o’i gymharu â 10,354 yn 2009, a 12,738 yn 2005.

Mae’r ystadegau hefyd yn datgelu fod lefel y traffig ar draws Prydain wedi gostwng 2% ers y llynedd.