Derrick Bird
Mae baneri yn cael eu chwifio ar hanner mast yn Whitehaven heddiw, flwyddyn union wedi i Derrik Bird saethu 12 o bobol yn farw yno.

Cynhaliwyd dwy funud o dawelwch am hanner dydd yn y dref ac mewn sawl cymuned ar draws Gorllewin Cumbria, er mwyn cofio’r meirw.

Siaradodd Prif Gwnstabl Cumbria, Craig Mackey, gan fynegi ei gydymdeimlad at deulu a ffrindiau’r rhai a laddwyd.

“Ni fydd bywydau rhai byth yr un peth, a dwi’n gwybod na fyddwn ni fyth yn anghofio’r hyn a ddigwyddodd,” meddai Craig Mackey.

“Ond mae ein pwyslais ni nawr ar sicrhau bod y dioddefwyr, eu teuluoedd, pobl Gorllewin Cumbria, a’n swyddogion ni yn gallu ail-adeiladu ein bywydau.

“Dylen ni gymryd munud heddiw i oedi a chofio’r rheiny sydd wedi eu cymryd oddi arnom ni.”

Y deuddeg a gafodd eu saethu oedd Kevin Commons, Darren Rewcastle, Susan Hughes, Kenneth Fishburn, Isaac Dixon, Jennifer Jackson, James Jackson, Garry Purdham, Jamie Clark, Mike Pike, Jane Robinson a David Bird, sef gefaill y saethwr.

“12 o fywydau a gymrwyd oddi arnom, a 12 o bobol a fydd yn parhau’n fyw yng nghof Cumbria.”