Richard Burton
Bydd hanes un o actorion enwocaf Cymru, ac un o actoresau mwyaf adnabyddus y sgrin fawr, yn cael ei wneud yn ffilm.
Mae disgwyl i hanes carwriaeth dymhestlog Richard Burton ac Elizabeth Taylor, a gafodd ei groniclo mewn llyfr o’r enw Furious Love, gael ei drosi’n ffilm wedi ei chyfarwyddo gan Martin Scorsese.
Mae yna ddiddordeb mawr wedi bod mewn creu ffilm am y berthynas ers marwolaeth Elizabeth Taylor ym mis Mawrth.
Mae’r cyfarwyddwr Michael Scorsese, yr actores Natalie Portman, a sgriptiwr y King’s Speech, David Seidler, eisoes wedi dangos diddordeb.
Mae’r llyfr, Furious Love, yn cynnig golwg bersonol iawn ar y garwriaeth enwog. Roedd Elizabeth Taylor wedi cytuno i ddangos ei llythyron caru hi a Richard Burton, gafodd ei fagu ym Mhontrhydyfen, i’r awduron.
Dechreuodd y garwriaeth rhwng Richard Burton ac Elizabeth Taylor tra’r oedd y ddau yn ffilmio Cleopatra yn 1963.
Priododd y ddau yn 1964, cyn ysgaru degawd yn ddiweddarach. Ond ail-briododd y cwpwl yn 1975, cyn ysgaru eto blwyddyn yn ddiweddarach.
Dywedodd Richard Burton bod eu perthynas yn un tymhestlog iawn, a’i bod hi’n “amhosib parau i daflu dau ddarn o ddynameit at ei gilydd, heb iddyn nhw ffrwydro”.
Mae cynhyrchwyr y ffilm yn gobeithio y bydd ystâd yr actores yn cefnogi’r ffilm, ar ôl iddyn nhw ddod i gytundeb ag etifeddion Elizabeth Taylor.
Mae gweddw Richard Burton eisoes wedi cytuno i gyd-weithio â chynhyrchwyr.