Hywel Griffiths
Mae’r prifardd Hywel Griffiths wedi ennill gwobr Tir na n-Og am lyfrau i blant a phobl ifanc ar ei ymgais gyntaf.
Cyhoeddodd Cyngor Llyfrau Cymru enwau enillwyr gwobrau Cymraeg Tir na n-Og o lwyfan Eisteddfod yr Urdd brynhawn ma.
Cipiodd Hywel Griffiths y wobr am lyfr i blant cynradd â’i nofel Dirgelwch y Bont.
Lleucu Roberts, awdur profiadol iawn a chyn-enillydd gwobr Tir na n-Og, ddaeth i’r brig yn y categori uwchradd eleni, a hynny am ei nofel Stwff Guto S. Tomos.
Mae Dirgelwch y Bont un ffantasi hanesyddol yw hon sy’n dilyn antur tri ffrind wrth iddynt groesi ffin amser i gyfnod cyffrous Owain Glyndŵr. Mae’n un o deitlau Cyfres Strach a gyhoeddir gan Wasg Gomer.
Dyddiadur ffraeth bachgen pedair ar ddeg oed sy’n byw mewn teulu digon anghonfensiynol a geir yn Stwff Guto S. Tomos, a gyhoeddwyd gan wasg y Lolfa fel rhan o Gyfres yr Onnen.
“Mae derbyn gwobr Tir na n-Og am fy nofel gyntaf yn hwb aruthrol,” meddai Hywel Griffiths, a enillodd gadair Eisteddfod yr Urdd yn 2004 a 2007, ac yna coron yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 2008.
“Rwy’n gobeithio’n fawr y caiff plant Cymru gymaint o hwyl yn darllen y nofel ag y cefais i wrth ei hysgrifennu.’
Roedd Lleucu Roberts, sy’n wreiddiol o Lanfihangel Genau’r Glyn yng Ngheredigion, wedi ennill gwobr Tir na n-Og yn 2009 gyda’r gyfrol Annwyl Smotyn Bach.
Dywedodd ei fod “yn fraint ac yn bleser ennill y wobr nodedig hon am yr eildro”.
Mae’r gwobrau £1,000 wedi eu noddi gan CILIP Cymru a Chymdeithas Lyfrau Ceredigion.
Cyflwynwyd y gwobrau i’r awduron mewn seremoni arbennig ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Abertawe a’r Fro, ar 2 Mehefin.
“Mae’n braf iawn medru llongyfarch awdur newydd ac awdur profiadol ar ennill gwobrau Cymraeg Tir na n-Og 2011,” meddai Elwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru.
“Roedd safon arbennig i’r llyfrau ar y rhestr fer eleni, gan adlewyrchu’r amrywiaeth o lyfrau a gyhoeddir. Pleser o’r mwyaf yw llongyfarch yr awduron a’r cyhoeddwyr yn wresog ar eu llwyddiant.’