Banciau dinas Llundain
Mae protestwyr yn erbyn toriadau i’r Gwasanaeth Iechyd wedi bod yn meddiannu banciau ledled Prydain heddiw.

Mae aelodau UK Uncut, y mudiad a fu’n meddiannu siop Fortnum and Mason yn Llundain ym mis Mawrth, wedi bod yn troi canghennau o fanciau HSBC, Natwest a Barclays yn ‘ysbytai’ i dynnu sylw’r cyhoedd.

Ymysg y protestwyr mae’r canwr adnabyddus Billy Bragg a fu yn un o ganghennau HSBC yn Newcastle wedi ei wisgo fel meddyg.

Dywed y mudiad mai diben y brotest ‘Emergency Operation’ oedd tynnu sylw at “yr anghyfiawnder o orfodi pobl, yn lle’r banciau, dalu am yr argyfwng economaidd”.

Meddai Rosie Beech, gweithiwr iechyd ac un o gefnogwyr UK Uncut: “Fe fydd 50,000 o staff y Gwasanaeth Iechyd yn colli eu swyddi tra bydd y trethdalwr yn parhau i sybsideiddio’r banciau.

“Pam fod y Llywodraeth yn torri’r Gwasanaeth Iechyd a phreifateiddio’r hyn sydd ar ôl yn lle gorfodi’n banciau i dalu?”

Mewn arwydd o undod cynyddol rhwng undebau llafur a grwpiau gweithredu uniongyrchol, fe wnaeth yr undeb Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol annog ei aelodau i fynychu’r protestiadau heddiw.

Dywed datganiad ar wefan yr undeb: “Y syniad yw tynnu sylw at y ffordd y mae’r sector banciau’n cael osgoi talu biliynau o bunnau mewn treth – arian y gellid ac y dylid ei fuddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd.”