Y Flying Scotsman, mewn lifrai du, fel ym mlynyddoedd y rhyfel (o wefan Amgueddfa Rheilffyrdd Prydain)
Mae torfeydd wedi bod yn heidio i Amgueddfa Reilffyrdd Prydain yng Nghaerefrog heddiw i weld un o drenau stêm enwocaf y byd.

Am y tro cyntaf ers pum mlynedd, mae’r Flying Scotsman i’w gweld ar drofwrdd yn yr amgueddfa y penwythnos yma, ar ôl proses drylwyr o’i hadfer a’i hailadeiladu o’r newydd.

Du yw ei lliw ar hyn o bryd – fel yr oedd yn ystod blynyddoedd y rhyfel – ond fe fydd hi’n cael ei phaentio yn ei lifrai arferol o wyrdd gyda hyn.

“Mae’r digwyddiad yma’n nodi rhan olaf y gwaith o adfer y Flying Scotsman,” meddai Steve Davies, cyfarwyddwr Amgueddfa Reilffyrdd Prydain.

“Fe fydd y cyhoedd yn gallu mwynhau’r Flying Scotsman ar ein trofwrdd y penwythnos gŵyl banc yma cyn iddi gael ei dychwelyd at ein peirianwyr am brofion stêm dros y misoedd nesaf.

“Fydd hi ddim yn hir cyn y bydd y Flying Scotsman yn gwibio yn ei lifrai gogoneddus o wyrdd.”

Cafodd yr injan ei phrynu gan yr amgueddfa yn 2004 gyda grant o £1.8 miliwn gan y Gronfa Loteri Treftadaeth a chyfraniadau gan y cyhoedd.

“Mae heddiw’n garreg filltir bwysig yn y prosiect cyffrous yma sydd wedi adfer y Flying Scotsman, un o gampweithiau rhyfeddol peirianneg Prydain,” meddai Bob Bewley o’r Gronfa Loteri Treftadaeth.