Mae heddlu wedi cyfaddef iddyn nhw wneud camgymeriad ar ôl honni ar gam eu bod nhw wedi arestio plentyn naw oed am yfed a gyrru.
Roedd yr hogyn naw oed mewn gwirionedd yn ddyn 19 oed, ond roedd heddwas wedi gwneud camgymeriad wrth fewnbynnu ei ddyddiad geni i mewn i gyfrifiadur.
Roedd Heddlu Cumbria wedi anfon y wybodaeth allan i newyddiadurwyr wrth ymateb i gais am wybodaeth ynglŷn â throseddau ymysg pobol dan 18 oed.
Roedd y wybodaeth yn sail i sawl stori yn y wasg oedd yn honni bod plentyn naw oed wedi ei arestio am yfed a gyrru yng ngogledd Lloegr.
“Daeth y wybodaeth yn yr erthygl o gais rhyddid gwybodaeth oedd wedi ei anfon at Heddlu Cumbria gan holi faint o bobol dan 18 oed oedd wedi eu harestio am droseddau yn ymwneud â cheir,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu.
“Yn anffodus roedd y wybodaeth a ddarparwyd gan yr heddlu am droseddwr yfed a gyrru naw oed yn anghywir.
“Digwyddodd y camgymeriad oherwydd bod dyddiad geni dyn wedi ei gofnodi yn anghywir ar ein system. Mewn gwirionedd roedd yn 19 oed.
“Rydyn ni’n ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.”