Fe fydd yr heddlu yn cael dirwyo gyrwyr peryglus yn y fan a’r lle dan gynlluniau newydd i geisio gwneud ffyrdd Ynysoedd Prydain yn saffach.

Bydd gyrwyr sy’n rhy agos at geir eraill, neu’n pasio ceir eraill ar ochor anghywir y ffordd, yn cael dirwy o hyd at £100 yn syth, yn hytrach na mynd i’r llys.

Dywedodd yr Adran Drafnidiaeth y bydd yna gamau pellach i sicrhau nad ydi pobol sy’n gyrru dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol yn gallu dianc cael eu cosbi.

Fe fydd y llysoedd yn cael eu hannog i ddefnyddio eu grymoedd i feddiannu cerbydau gyrwyr sy’n torri’r gyfraith.

“Bydd y strategaeth yn canolbwyntio ar dargedu gyrwyr hynod o ddiofal,” meddai llefarydd ar ran yr Adran Drafnidiaeth.

“Drwy roi’r grym i’r heddlu fynd i’r afael â’r rheini sy’n peryglu eraill fe allen ni wneud ein ffyrdd yn ragor diogel.”

Dywedodd yr Athro Stephen Glaister, cyfarwyddwr Sefydliad yr RAC, y bydd y strategaeth yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y ffyrdd.

“Ond dw i’n ansicr a fydd yn datrys y peryglon sy’n achosi anafiadau a marwolaethau,” meddai.”