Ian Tomlinson
Cafodd Ian Tomlinson ei ladd yn anghyfreithlon gan un o swyddogion Scotland Yard yn ystod y protestiadau’r G20, penderfynodd rheithgor yn ei gwest heddiw.
Gallai’r swyddog Simon Harwood nawr gael ei erlyn, ar ôl i’r rheithgor benderfynu ei fod wedi ymddwyn mewn modd anghyfreithlon, diofal a pheryglus wrth wthio Ian Tomlinson i’r llawr.
Defnyddiodd Simon Harwood rym “gormodol ac afresymol” wrth daro Ian Tomlinson â baton, meddai’r rheithgor. Ychwanegwyd nad oedd Ian Tomlinson yn peri unrhyw fygythiad.
Cafodd tystiolaeth Simon Harwood a’r patholegydd Dr Freddy Patel eu hamau gan y rheithgor wrth gyflwyno’u casgliadau – ac mae disgwyl y bydd hyn yn ysgogi arolwg gan Wasanaeth Erlyn y Goron a Heddlu’r Met.
Disgynnodd y gwerthwr papurau newydd, digartref i’r llawr a marw, ar gyrion y gwrthdystiadau yng nghanol Llundain ar 1 Ebrill, 2009.
Daeth marwolaeth y dyn 47 oed i sylw’r byd wedi i ŵr busnes o Efrog Newydd, Christopher La Jaunie, roi tystiolaeth fideo o’r gwrthdaro yn nwylo papur newydd y Guardian.
Dywedodd erlynyddion y llynedd y gallai’r penderfyniad i beidio erlyn Simon Harwood gael ei ail-ystyried yn sgil dyfarniad y cwest.
Roedd Freddy Patel wedi dweud bod Ian Tomlinson wedi marw o drawiad ar y galon, ond clywodd y rheithgor dystiolaeth gan lu o arbenigwyr a ddywedodd ei fod wedi marw o waedu mewnol.
‘Dweud celwyddau’
Mae teulu Ian Tomlinson wedi cyhuddo Simon Harwood o ddweud celwydd er mwyn osgoi cael ei gosbi am beth ddigwyddodd.
Roedd Ian Tomlinson wedi troi ei gefn ar yr heddlu, gyda’i ddwylo yn ei bocedi, pan gafodd ei daro gan Simon Harwood.
Wrth ymddangos am dridiau yn y gwrandawiad yn Fleet Street yn Llundain, ymddiheurodd Simon Harwood wrth aelodau o deulu Ian Tomlinson os oedd e’n gyfrifol “mewn unrhyw ffordd” am y farwolaeth.
Ond mae cyfreithiwr y teulu, Matthew Ryder QC, yn dweud mai “hanner y gwir” oedd wedi ei ddweud gan Simon Harwood, a’i fod wedi “creu darlun ffug o Mr Tomlinson yn fwriadol”.
Ychwanegodd y bargyfreithiwr “Dw i am awgrymu nad ydych chi yma i helpu teulu Mr Tomlinson o gwbl ond i helpu eich hun.”
Cyd-weithwyr wedi synnu
Roedd cyd-weithwyr yn Scotland Yard wedi eu synnu gan ymateb Simon Harwood.
Dywedodd yr heddwas Kerry Smith fod Ian Tomlinson wedi “eistedd i fyny ac edrych tuag aton ni a dweud, ‘O’n i jyst eisiau mynd adre’.”
Roedd Ian Tomlinson, a aned yn Swydd Derby, yn alcoholig a oedd wedi bod yn ddigartref ers ugain mlynedd, ac yn dioddef o nifer o anhwylderau meddygol.