Robert Williams (llun Heddlu De Cymru)
Mae’r heddlu wedi rhoi’r gorau i chwilio am fachgen ysgol ddiflannodd dros naw mlynedd yn ôl ar ôl dod i’r casgliad ei fod o fwy na thebyg wedi marw.
Mae Robert Williams, o Resolfen, ger Castell-nedd, oedd yn 15 pan ddiflannodd, wedi bod ar goll er mis Mawrth 2002.
Cafodd ei fam glywed gan yr heddlu bod ei mab “yn debygol iawn” o fod wedi marw yn ystod y naw mlynedd diwethaf.
Mae hi wedi galw unwaith eto am wybodaeth gan unrhyw un sy’n gwybod lle y mae o.
Mae’r heddlu wedi rhoi’r gorau i chwilio ar ôl ailagor yr ymchwiliad y llynedd.
Roedden nhw wedi rhyddhau llun oedd wedi ei greu gan yr heddlu er mwyn dangos sut y byddai Robert Williams yn edrych heddiw, yn 24 oed.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi ymchwilio yn drwyadl, ac wedi holi dros 100 o lygaid-dystion, ond heb lwc,” meddai’r Ditectif Arolygydd, Mark Lewis.
“Rydyn ni hefyd wedi chwilio’r bas-data DNA ac olion bysedd, cofnodion meddygol a chysylltu â nifer fawr o gyrff yn y gobaith y byddai Robert wedi dod i gysylltiad â nhw.
“Yn anffodus does yna ddim tystiolaeth sy’n awgrymu fod Robert Williams yn fyw ac rydw i wedi rhoi gwybod i deulu Robert ei fod yn debygol ei fod wedi marw ryw ben yn ystod y naw mlynedd diwethaf.
“Mae mam Robert, Cheryl, wedi torri ei chalon ac yn gofyn drwy’r cyfryngau i unrhyw un sydd â gwybodaeth am ddiflaniad Robert a’i farwolaeth debygol i gysylltu.
“Mae bob dydd ers i Robert ddiflannu wedi bod yn frwydr i Cheryl a’i theulu. Mae hi’n galw ar y cyhoedd i ddod a’r hunllef y mae hi wedi ei ddioddef dros y naw mlynedd diwethaf i ben.”
Gellir cysylltu â Heddlu De Cymru ar 01792 562 732 neu Taclo’r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.