Y daflen
Mae dwy o’r pleidiau yn etholaeth Aberconwy’n ymgynghori gyda’u cyfreithwyr ar ôl i’r Blaid Lafur ddosbarthu taflen sydd, meddwn nhw, yn “hollol anghywir”.
Fe gadarnhaodd llefarydd ar ran Plaid Cymru eu bod nhw’n ystyried cymryd camau cyfreithiol oherwydd y daflen sy’n gwneud honiadau yn erbyn ymgeisydd y Blaid, Iwan Huws, gan ei gyhuddo o golli swyddi i’r ardal.
Yn ôl Plaid Cymru, mae’r cyhuddiad yn “gwbl gelwyddog” ac maen nhw’n trafod pa gamau i’w cymryd nesa’.
Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholaeth eu bod nhw hefyd yn ystyried camau cyfreithiol hefyd tros honiadau tebyg yn erbyn eu hymgeisydd nhw, Mike Priestley.
Yn ôl llefarydd ar eu rhan nhw, maen nhw am roi cyfle i’r Blaid Lafur dynnu’r daflen yn ôl ac ymddiheuro.
Dywedodd Christine Humphries, asiant Mike Prisetley, fod y celwydd yn y daflen yn “ofnadwy”.
Ymatebodd y Blaid Lafur drwy ddweud eu bod nhw”wedi derbyn gohebiaeth gan y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru ac fe fyddwn ni’n ymateb pan mae’n briodol”.
Mae Aberconwy’n sedd ymylol sy’n cael ei dal ar hyn o bryd gan Blaid Cymru ond sy’n sedd darged i Lafur hefyd.
Roedd y darogan diweddara’ gan y bwcis yn awgrymu bod Iwan Huws a Phlaid Cymru wedi mynd ar y blaen i Eifion Williams a’r Blaid Lafur.
Ynghynt eleni, fe gollodd yr AS Llafur Phil Woolas ei sedd yn Oldham ar ôl ei gael yn euog o wneud honiadau anghywir mewn taflen etholiad. Roedd hynny’n groes i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.
“Mae’n amlwg nad ydi’r Blaid Lafur wedi dysgu gwersi Oldham yn yr etholiad diwethaf, pan benderfynodd y llysoedd ddisodli eu hymgeisydd,” meddai Elfyn Llwyd, AS Plaid Cymru.
“Does gan gelwydd ddim lle yn y broses ddemocrataidd. Mae Plaid Cymru wedi cymryd cyngor cyfreithiol ac fe fyddwn ni’n ysgrifennu at Blaid Lafur yn syth.”