Gorsaf Niwclear Sellafield
Mae pum dyn wedi eu cadw yn y ddalfa dan y Ddeddf Derfysgaeth ar ôl cael eu harestio ger safle niwclear Sellafield, cyhoeddodd yr heddlu heddiw.
Cafodd y pump eu harestio am 4.32pm ddoe ar ôl i’w cerbyd gael ei atal gan swyddogion o’r Heddlu Niwclear Sifil, sy’n gwarchod y safle yng Ngorllewin Cumbria.
Digwyddodd yr arestiadau oriau yn unig ar ôl y cyhoeddiad fod Osama bin Laden wedi ei ladd ym Mhacistan.
Cafodd y pum dyn, sydd yn eu 20au ac o Lundain, eu cadw yn y ddalfa dros nos a’u cludo i Fanceinion yn y bore.
Mae ymchwiliad yn mynd rhagddo gan Uned Gwrthderfysgaeth y Gogledd Orllewin.
“Am 4.32pm ddoe, ar 2 Mai, roedd heddweision o’r Heddlu Niwclear Sifil wedi atal cerbyd ar hap ger gorsaf niwclear Sellafield.
“O ganlyniad arestiodd heddweision o Heddlu Cumbria bum dyn o Lundain, pob un yn eu 20au, dan Adran 41 y Ddeddf Derfysgaeth.
“Aethpwyd a nhw i Carlisle dros nos a’u trosglwyddo i Fanceinion y bore ma.
“Mae’r ymchwiliad yn cael ei arwain gan Uned Gwrthderfysgaeth y Gogledd Orllewin.
“Roedd rhaid cau ffordd yn yr ardal am gyfnod byr.”
Dywedodd Heddlu Manceinion nad oedden nhw “yn ymwybodol o unrhyw gysylltiad â digwyddiadau diweddar ym Mhacistan”.