Sian O'Callaghan (llun heddlu)
Fe fydd angladd Sian O’Callaghan, y ferch o Swindon a gafodd ei llofruddio, yn cael ei gynnal yr wythnos nesaf.
Bydd ei theulu yn cynnal gwasanaeth preifat yn amlosgfa Kingsdown yn Swindon brynhawn dydd Llun. Bydd y ceir angladd yn pasio’n araf drwy ardal yr Hen Dref tua 2.30pm.
Fe gafodd Sian ei gweld diwethaf yn gadael clwb nos Suju yn yr Hen Dref yn ystod oriau man 19 Mawrth ar ôl noson allan gyda ffrindiau.
Bum diwrnod yn ddiweddarach, fe gafodd heddlu hyd i gorff y ferch 22 blwydd oed yn Uffington, Swydd Rhydychen.
Mae Christopher Halliwell, 47 gyrrwr tacsi yn cael ei ddal gan yr Heddlu wedi’i gyhuddo o’i llofruddiaeth.
Mae Elaine, mam Sian O’Callaghan wedi dweud ei bod eisiau cadw’r gwasanaeth yn breifat i tua 90 o ffrindiau agos a theulu.