Mae ymwelydd tramor o Brydain wedi marw tra oedd yn cael ei ddal gan yr heddlu yn Dubai, cyhoeddodd y Swyddfa Dramor heddiw.
Yn ôl rhai adroddiadau, fe gafodd Lee Brown, 39, ei guro’n drwm ar ôl cael ei arestio dros gweryl mewn gwesty moethus yn yr emirate.
Fe wnaeth y dyn cynnal a chadw farw ddydd Mawrth ar ôl cael ei ddal am 6 diwrnod gan yr heddlu yng ngorsaf heddlu Bur Dubai – roedd wedi’i arestio 6 Ebrill, yn ôl y Daily Mail.
Fe gafodd ei deulu yn Dagenham, dwyrain Llundain wybod am y digwyddiad gan garcharor arall oedd wedi dod o hyn i rif ei chwaer a llungopi o basport Lee Brown oedd wedi’u gadael mewn cell, yn ol y papur.
“Fe fedrwn ni gadarnhau fod Lee Bradley Brown wedi marw pan oedd yn cael ei ddal gan yr Heddlu,” meddai llefarydd ar ran y Swyddfa Tramor.
“Rydan ni wedi siarad gyda’i deulu ac yn darparu cymorth cwnselaidd.
“Mae’r llysgenhadaeth mewn cysylltiad agos â Heddlu Dubai, sy’n ymchwilio i marwolaeth Lee.”