Mae’r heddlu’n ymchwilio i farwolaethau bachgen a merch a gafodd eu saethu yn yr Alban.
Fe gafodd gyrff merch 16 oed a bachgen 18 oed eu canfod gyda chlwyfau o ergyd gwn mewn bwthyn yn Tomintoul yn Moray neithiwr.
Roedd Gwasanaeth Ambiwlans yr Alban wedi hysbysu’r heddlu am y marwolaethau cyn saith o’r gloch neithiwr.
Fe ddywedodd Heddlu Grampian nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r saethu, ond nid oeddent yn barod i ddweud a oeddent yn trin yn ddadl yn y cartref neu beidio.
Mae ardal eang o safle’r cartref yn cael ei chwilio gan nad yw’r digwyddiad wedi cael ei gyfyngu i’r adeilad yn unig.
“Fe fydd y digwyddiad yma’n brawychu’r gymuned o fewn Tomintoul a Grampian gyfan,” meddai’r Ditectif Arolygydd Stewart Mackie.
“Mae’r ymchwiliadau yn dal i fod yn gyfnod cynnar, ond mae’n bwysig pwysleisio nad ydym ni’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad gyda’r digwyddiad.”
Fe ddywedodd Stewart Mackie ei fod yn cadw meddwl agored ynglŷn ag oedd y marwolaethau o ganlyniad i lofruddiaeth a hunanladdiad, cytundeb hunanladdiad neu ddamwain.
Mae’r cynghorydd lleol, Fiona Murdoch wedi dweud bod y digwyddiad yn drasiedi ofnadwy beth bynnag oedd amgylchiadau marwolaethau’r ddau berson.