Mae’r heddlu wedi cyhuddo’r ddau berson a gafodd ei arestio ddoe yn dilyn adroddiad “ffug” am ladrata car yn Jersey Marine ger Port Talbot.
Roedd menyw 26 oed wedi honni fod lladron wedi ei gorfodi allan o gar yr oedd hi’n rhoi prawf ar ei yrru.
Ond fe ddywedodd Heddlu De Cymru na ddigwyddodd y “lladrad” o gwbl.
Mae’r fenyw 26 oed wedi cael ei chyhuddo o ddwyn cerbyd heb ganiatâd y perchennog yn ogystal â gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae dyn 29 oed wedi cael ei gyhuddo o ddwyn cerbyd heb ganiatâd y perchennog.
Cysylltwyd â’r heddlu ar 3 Ebrill, ar ôl i’r ddynes fynd a BMW 1 du oedd yn eiddo i gwmni ceir Corner Park yn Abertawe, roi cynnig arno ar y ffordd.
Galwodd swyddogion yr heddlu am lygaid dystion ar ôl clywed bod y ddynes wedi ei gorfodi allan o’r car gan dri dyn oedd yn teithio mewn Ford Focus gwyrdd.
Ond dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Simon Davies ei fod bellach yn amlwg na ddigwyddodd y lladrad o gwbl.
“Roedd yn rhaid ymchwilio yn drylwyr i’r honiad rhyfedd yma, a daeth i’r amlwg fod y cyhuddiad yn un ffug,” meddai.
“Rydyn ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi dioddefwyr ond allwn ni ddim goddef ymddygiad sy’n gwastraffu ein hamser a’n hadnoddau.”
Fe fydd y ddau yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Castell-nedd ar 19 Ebrill.