Cafodd beicwr ei ladd mewn gwrthdrawiad ar yr A55 ym Môn ychydig wedi chwarter wedi deg y bore yma.

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion i’r digwyddiad rhwng cyffyrdd 6 a 7 ar lôn ddwyreiniol yr A55 ger Gwalchmai.

Roedd y beiciwr ymysg criw o bump o feicwyr ac mae’r heddlu’n awyddus i siarad gydag unrhyw un a welodd y criw neu a oedd yn dystion i’r digwyddiad.

Mae’r darn o’r A55 lle digwyddodd y gwrthdrawiad wedi cau ar hyn o bryd.

Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth ffonio 101 neu 0845 6071001.