Mae cynlluniau llywodraeth Prydain i ddiwygio’r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr wedi cael eu collfarnu’n llwyr gan y corff sy’n gofalu am fuddiannau nyrsys.
Pleidleisiodd Coleg Brenhinol y Nyrsys bron yn unfrydol o blaid cynnig o ddiffyg hyder yn yr Ysgrifennydd Iechyd Andrew Lansley.
O blith y cynrychiolwyr yn y gynhadledd yn Lerpwl fe wnaeth 99% bleidleisio o blaid gydag 1% yn erbyn.
Fe ddywedodd cynrychiolwyr y Coleg Brenhinol y byddai cynlluniau Andrew Lansley – sy’n ymwneud â rhoi’r cyfrifoldeb am gyllidebau iechyd i feddygon teulu – yn difetha’r Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol gan arwain at ofal gwaeth i gleifion.
Roedd yr Ysgrifennydd Iechyd eisoes wedi cael ei feirniadu am wrthod gwneud araith yn y gynhadledd.
Nid yw’r Coleg Brenhinol erioed wedi pleidleisio o blaid cynnig o ddiffyg hyder mewn Gweinidog Iechyd o’r blaen.
Fe ddywedodd un nyrs, Geoff Earl, wrth y cynrychiolwyr ei fod yn “fater difrifol iawn.”
Yn dilyn y bleidlais fe ddywedodd Andrew Lansley ei fod yn gwrando ar y nyrsys ac y byddai’n gwneud gwelliannau.
“Rwy’n deall eu pryderon. Rwy’n gwybod wrth wrando arnynt eu bod nhw am ymwneud yn fwy a’r penderfyniadau – rwyf innau am hynny hefyd,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd.
“Does dim opsiwn i beidio gwneud dim byd os ydyn ni am gynnal y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol ar gyfer y cenhedloedd nesaf.”