Mae ditectifs sy’n ymchwilio i saethu merch bump oed a pherchennog siop yn Llundain yn credu eu bod nhw wedi eu dal yn y canol wrth i griw ymosod ar ddau lanc ifanc.
Mae’r ferch fach a dyn 35 oed mewn cyflwr bregus ar ôl cael eu saethu y tu mewn i siop ar Stryd Stockwell, yn ne Llundain, am 9.15pm ddydd Mawrth.
“Y gred yw bod dau lanc croenddu wedi rhedeg i mewn i’r siop cyn y saethu,” meddai llefarydd ar ran Heddlu’r Met.
“Roedden nhw wedi eu cwrso o Stryd Broomgrove, ar draws Stryd Stockwell, ac i mewn i’r siop gan dri llanc croenddu oedd ar feiciau.
“Saethodd un o’r llanciau oedd ar y beiciau i mewn i flaen y siop.”
Cafodd y ferch fach ei tharo yn ei brest, a’r dyn yn ei wyneb, meddai’r heddlu. Dyw’r dioddefwyr ddim yn perthyn.