Mae cwmni Siemens yn anhapus ar ôl cael y bai wedi i wefan y BBC ddiflannu am awr ddoe.
Roedd y BBC wedi dyfynnu e-bost gan Siemens ar eu gwefan yn esbonio pam fod y wefan gyfan wedi diflannu am gyfnod ddydd Mawrth.
Yn ôl adroddiadau ym mhapur newydd y Guardian mae prif weithredwyr Siemens yn anhapus fod yr e-bost “mewnol” wedi ei gyhoeddi gan y gorfforaeth.
Mae gan Siemens, cwmni o’r Almaen, gytundeb £1.9 biliwn i ddarparu gwasanaethau technoleg gwybodaeth ar gyfer y BBC.
Dywedodd golygydd gwefan y BBC, Steve Herrmann, fod y llwybrydd oedd yn cyfeirio pobol at wefan y gorfforaeth wedi methu.