Mae dros 120 o bedoffiliaid honedig wedi eu harestio ym Mhrydain yn un o’r ymchwiladau rhyngwladol mwyaf erioed i rwydweithiau camdrin plant ar y rhyngrwyd.  

Ledled y byd, mae 670 o bedoffiliaid wedi eu darganfod, a 184 ohonyn nhw bellach wedi eu harestio – a dwy ran o dair ohonyn nhw o’r Deyrnas Gyfunol, meddai’r heddlu heddiw.

Mae’r ymchwiliad yn rhan Brosiect Achub, sydd wedi bod yn rhedeg ers dros dair mlynedd.  

Cafodd y person diweddaraf ei arestio yn Swydd Northampton ddoe, yn ôl heddlu yn Yr Hâg, yr Iseldiroedd, lle mae pencadlys Europol, a fu’n gyfrifol am gydlynu gwaith gan yr heddlu yn Awstralia, Canada, Seland Newydd, America a’r Deyrnas Gyfunol.  

Yn sgîl yr ymchwiliad, daeth yr heddlu o hyd i 230 o blant oedd wedi cael eu camdrin “gan droseddwyr difrifol iawn ar lefel ryngwladol iawn.”  

‘Defnyddio’r we yn eu herbyn’  

Yn ôl Peter Davies, prif swyddog Child Exploitation and Online Protection Centre UK, y sefydliad a fu’n arwain yr ymchwiliad, roedd y pedoffiliaid i gyd yn perthyn i fforwm drafod ar-lein a oedd yn cael ei redeg o’r Iseldiroedd.

Roedd y wefan, oedd â dros 70,000 o aelodau, yn honni rhoi llwyfan i ‘drafod’ diddordeb aelodau mewn bechgyn ifanc, heb gyflawni troseddau.  

“Ond roedd rhai aelodau yn defnyddio’r cysylltiadau a wnaed ar y wefan i sefydlu cysylltiadau preifat â’i gilydd, i rannu lluniau anghyfreithlon a ffilmiau o gamdrin plant,” meddai Peter Davies.  

Dywedodd fod yr ymgyrch yn dangos nad oedd troseddwyr yn gallu cuddio tu ôl i’w ffug-enwau ar y we bellach.  

“Tra bod y troseddwyr yn teimlo’n anhysbys am eu bod nhw’n defnyddio’r we i gyfathrebu, roedd y dechnoleg mewn gwirionedd yn cael ei ddefnyddio yn eu herbyn … trwy ddilyn eu hôl troed digidol.”  

Mae 33 o’r 121 o bobol a arestiwyd wedi cael eu cyhuddo hyd yn hyn, a’r rheiny yn amrywio o 17 oed i 82 oed.