Hamad-Bin-Isa-Al-Khalifa, Brenin Bahrain
Mae o leiaf bump yn rhagor o bobl wedi cael eu lladd yn Bahrain heddiw wrth i wrthdrawiadau ddwysáu rhwng milwyr a phrotestwyr yn y wlad.
Mae milwyr wedi bod yn defnyddio nwy dagrau a cherbydau arfog ers toriad gwawr y bore yma i anfon protestwyr o’u gwersyll ar Sgwar y Perlau yn y brifddinas mewn ymgais i amddiffyn y frenhiniaeth.
Dyma’r ail ddiwrnod o ymosod treisgar ar y protestwyr, ar ôl i ddau arall gael eu lladd ddoe.
Apêl Cameron i’r Brenin
Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi galw ar Frenin Bahrain i sicrhau diwedd ar y gormes treisiol. Fe fu’n gyda’r Brenin Hamad bin Isa al-Khalifa ar y ffôn neithiwr i ddweud bod angen i bob ochr atal y gwrthdaro.
Fe ddywedodd Brenin Bahrain ddoe bod y wlad mewn achos o argyfwng yn dilyn mis o wrthdystiadau lle mae mwyafrif Shi’ite y wlad wedi galw am ddiddymiad teyrnasiad gan y frenhiniaeth Sunni.
Fe gafodd cyfraith filitaraidd ei gosod ar y wlad gyda dros 1,000 o filwyr o Saudi Arabia gyrraedd Bahrain ar wahoddiad y Brenin i helpu sicrhau rheolaeth.
Mae David Cameron wedi dweud y dylai Bahrain ymateb i’r protestiadau gyda diwygiad gwleidyddol a nid gormes.
“Fe siaradodd y Prif Weinidog gyda Brenin Bahrain neithiwr i nodi ei bryderon ynglyn a’r sefyllfa yno,” meddai llefarydd ar ran David Cameron.
“Mae’r Prif Weinidog wedi annog y Brenin i gynnal deialog gwleidyddol ac i annog pob ochr i gymryd rhan.”