Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi rhoi awgrym cryf na fydd y Llywodraeth yn codi’r geiniog ychwanegol ar dreth tanwydd yn y Gyllideb yr wythnos nesaf.
Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn deall y “boen” i deuluoedd a busnesau llai wrth i bris petrol godi dros £1.30 y litr.
Cafodd y Prif Weinidog ei annog i drafod y pris tanwydd “hurt o uchel” yn ystod y cwestiynnau yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, pan rybuddiodd arweinydd yr SNP yn San Steffan, Angus Robertson, fod costau cynyddol yn debygol o wthio pobol allan o waith.
Dangosodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw fod diweithdra yn y Deyrnas Unedig wedi codi 27,000 yng nghwarter olaf 2010, i 2.53 miliwn – yr uchaf ers 1994.
Wrth ymateb i hyn, dywedodd Angus Robertson fod “yr ystadegau yn dangos fod diweithdra wedi disgyn yn yr Alban, ond wedi cynyddu yng ngweddill Prydain.”
Gofynnodd wedyn a fyddai’r Prif Weinidog yn “sicrhau na fyddai diweithdra is yr Alban yn cael ei beryglu gan brisiau tanwydd hurt o uchel, a threth ar danwydd sy’n hurt o uchel, mewn gwlad sy’n parhau i gynhychu mwy o olew nag unman arall yn Ewrop?”
Ymateb David Cameron drwy ddweud nad oedd e’n mynd i “ddyfalu beth sy’n mynd i fod yn y Gyllideb nesaf. Ond dw i’n cydnabod y boen i deuluoedd a busensau llai oherwydd yr holl gynnydd ar dreth tanwydd a roddwyd trwodd gan y llywodraeth ddiwethaf.”
Roedd disgwyl y byddai’r treth ar danwydd yn codi un geiniog y litr yn y Gyllideb, sydd i’w chyhoeddi gan y Canghellor George Osborne, yr wythnos nesaf.