Mae protestwyr wedi bod ar ben to adeilad llysgenhadaeth Libya yn Llundain trwy’r dydd.
Cafodd yr awdurdodau eu galw am 2.50am wedi i grŵp bach o bobol lwyddo i ddringo i do yr adeilad yn Knightsbridge.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Llundain fod y protestwyr wedi “tynnu fflag o’i bolyn, a cheisio’i newid am un arall.”
Llwyddodd y protestwyr i gyrraedd to’r adeilad o ystafell gyfagos, ond ni lwyddwyd i feddiannu’r adeilad llysgenhadol ei hun.
“Ar hyn o bryd, mae’r rheiny a gyrhaeddodd y to yn dal yno,” meddai llefarydd ar ran yr heddlu, “a’r gred yw bod rhyw bump ohonyn nhw i fyny yno.”
Cafodd dau ddyn, 25 oed a 26 oed, a fu hefyd yn ceisio dringo’r adeilad, eu harestio ar amheuaeth o geisio dresmasu ar dir diplomynddol cyn cyrraedd y to.
Maen nhw’n cael eu dal mewn gorsaf heddlu yn Llundain ar hyn o bryd. Dywedodd yr heddlu eu bod nhw nawr yn ceisio siarad â’r grŵp er mwyn “datrys y sefyllfa’n ddiogel.”
Daw hyn wrth i’r gwrthdaro rhwng y protestwyr a lluoedd Gaddafi ddwysáu yn Libya, ac wrth i Brydain bwyso ymhellach am waharddiad hedfan dros y wlad.