Fe ddaeth cadarnhad y bydd achosion llys chwech o ddynion sydd wedi’u cyhuddo mewn perthynas â thrychineb Hillsborough yn cael eu cynnal yn Llys y Goron Preston.
Roedd pump allan o’r chwe diffynnydd yn y llys i glywed y penderfyniad, ynghyd â pherthnasau rhai o’r 96 o gefnogwyr tîm pêl-droed Lerpwl a gafodd eu gwasgu i farwolaeth yn y stadiwm yn Sheffield yn ystod y gêm rhwng Lerpwl a Nottingham Forest yn rownd gyn-derfynol Cwpan FA Lloegr ar Ebrill 15, 1989.
Yn ystod gwrandawiad heddiw, cyflwynodd cyfreithwyr ar ran y diffynnyddion ddadleuon ynghylch a ddylai un barnwr gynnal un achos llys, neu a ddylai chwe barnwr glywed yr achosion yn unigol.
Roedd trafodaeth hefyd ynghylch pa lys fyddai’n clywed yr achos, gyda Leeds, Birmingham a Llundain o dan ystyriaeth.
Ni chyflwynodd yr un o’r chwech blê yn ystod y gwrandawiad, ond maen nhw’n bwriadu gwadu’r holl gyhuddiadau yn eu herbyn.
Y diffynyddion a’r cyhuddiadau
Mae Syr Norman Bettison, uwch arolygydd Heddlu De Swydd Efrog ar y pryd, wedi’i gyhuddo o bedwar achos o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus drwy ddweud celwyddau wrth gofnodi’r hanes mewn adroddiadau swyddogol.
Mae Graham Mackrell, cyn-ysgrifennydd Clwb Pêl-droed Sheffield Wednesday, wedi’i gyhuddo o ddwy drosedd iechyd a diogelwch.
Mae’r plismyn Donald Denton ac Alan Foster a’u cyfreithiwr Peter Metcalf wedi’u cyhuddo o ddau achos o fwriadu gwyrdroi cwrs cyfiawnder mewn perthynas ag addasu dogfennau’r heddlu ar ôl i nifer o blismyn roi tystiolaeth fel rhan o’r ymchwiliad i’r trychineb ar y pryd.
Mae David Duckenfield, oedd yn gyfrifol am blismona’r gêm, wedi’i gyhuddo o 95 achos o ddynladdiad drwy esgeulustod difrifol. Ond fydd e ddim yn ymddangos gerbron llys hyd nes y bydd yr Uchel Lys yn ymdrin â chais mewn perthynas ag achos preifat yn ei erbyn.