Mark Aizlewood yn ystod ei gyfnod yn chwarae
Fe fydd y cyn-bêldroediwr rhyngwladol Mark Aizelwood, 57, a Keith Williams, 45 oed o Fae Cemaes, yn ymddangos gerbron llys ddiwedd yr wythnos, wedi’u cyhuddo o ddweud anwiredd mewn achos o dwyll.

Yn ymuno â nhw fydd cyn-bêldroediwr Caerdydd a Chasnewydd, Paul Sugrue, 56.

Mae’r tri yn gwadu dau gyhuddiad o ddweud anwiredd er mwyn twyllo.

Mae Jack Harper, 30 o Lannau Mersi, yn gwadu un cyhuddiad tebyg, ac un cyhuddiad o dwyll ac o annog rhywun i gymryd rhan mewn twyll. 

Yr achos

Mae’r achos yn ymwneud â thwyll gwerth miliynau o bunnoedd mewn perthynas ag academi pêl-droed sy’n cynnig prentisiaethau i chwaraewyr ifanc.

Mae Christopher Martin, 53, eisoes wedi pledio’n euog i ddau gyhuddiad o gynllwynio i dwyllo drwy ddweud anwiredd, a Stephen Gooding, 53, wedi cyfadde’r un cyhuddiad. 

Aeth y ddau ohonyn nhw gerbron llys ym mis Mawrth ond doedd dim modd adrodd ar yr achos tan nawr.