Elan Closs Stephens (Llun: BBC)
Mae Elan Closs Stephens wedi ei phenodi i gynrychioli Cymru ar Fwrdd newydd y BBC.
Roedd yr academydd o Aberystwyth yn aelod dros Gymru ar Ymddiriedolaeth y BBC, ond cafodd y sefydliad hwnnw ei ddiddymu ddechrau mis Ebrill eleni.
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Prydain fod Elan Closs Stephens wedi cael ei phenodi yn dilyn “proses recriwtio agored a chystadleuol”.
Mae 14 aelod ar Fwrdd y BBC, fydd yn gyfrifol am oruchwylio’r gorfforaeth – mae’r rhain yn cynnwys cadeirydd, pedwar aelod yn cynrychioli Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, sy’n cael eu penodi gan adran Diwylliant a Chyfryngau’r Llywodraeth. Mae’r aelodau eraill yn cael eu penodi gan Fwrdd y BBC.
Elan Closs Stephens yw’r Comisiynydd Etholiadol dros Gymru ac mae hefyd yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Am weld Cymru’n cael ei phortreadu
Dywed Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, ei bod yn “dod â phrofiad helaeth yn y cyfryngau a’r diwydiannau creadigol gyda hi ac y bydd yn sicrhau bod llais cynulleidfa Cymru’n cael ei chynrychioli’n eglur.”
Dywedodd Elan Closs Stephens ei bod yn “ymrwymedig i weld Cymru’n cael ei phortreadu mwy i’n hunain ac i’r Deyrnas Unedig.”
Y llynedd, fe wnaeth pwyllgor o Aelodau Seneddol godi gwrychyn drwy argymell na ddylai’r BBC benodi cynrychiolwyr rhanbarthol.