”Alfred
Mae llawysgrifau un o’r gwyddonwyr amlycaf o Gymru yn mynd ar werth yn Swydd Gaerloyw heddiw.

Mae’r casgliad yn cynnwys 24 o lythyrau gan y naturiaethiwr a gafodd ei eni ym Mrynbuga, Sir Fynwy sef Alfred Russel Wallace (1823-1913).

Mae’r naturiaethiwr yn cael ei gofio am ei gyfraniad i ddatblygu’r theori esblygiad drwy ddetholiad naturiol – ond mae’n dueddol o gael ei anghofio yng nghysgod Charles Darwin (1809-1882).

Mae llefarydd ar ran Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cadarnhau wrth golwg360 eu bod yn “ymwybodol o’r arwerthiant” sy’n cael ei gynnal gan gwmni Dominic Winter ger Circencester, Swydd Gaerloyw.

Alfred Wallace a Charles Darwin

Yn ôl yr Athro Deri Tomos o Brifysgol Bangor, mae Alfred Russel Wallace yn wyddonydd “ar yr un lefel â Darwin ond, am wahanol resymau, rydyn ni’n dueddol o’i anghofio”.

Esboniodd fod Charles Darwin wedi cyhoeddi theori esblygiad yn 1858 ar ôl derbyn llythyr gan Alfred Wallace oedd â damcaniaeth debyg ag yntau’n ymchwilio yn Indonesia ar y pryd.

“Beth sy’n ffaith ddiymwad yw… ar yr un diwrnod ag y cyhoeddwyd syniadau Darwin, cyhoeddwyd hefyd syniadau a llythyr Alfred Russel Wallace.

“Damcaniaeth Wallace a Darwin dylen ni ei ystyried o ran esblygiad,” meddai Deri Tomos wedyn.

Llygad y cyhoedd

Mae’r llythyrau, sy’n mynd ar werth heddiw, yn ohebiaeth rhwng Wallace â golygydd cyfrol oedd yn cael ei hysgrifennu adeg ei farwolaeth.

Mae’r llawysgrifau’n rhoi mewnwelediad ar gymeriad Wallace gan awgrymu nad oedd yn dymuno bod yn llygad y cyhoedd.

“Mi oedd y ddau [Darwin a Wallace] yn gymeriadau hollol wahanol,” meddai Deri Tomos.

“Mi oedd Darwin yn dod o gefndir academaidd …tra bod Wallace yn dod o gefndir cymharol dlawd, roedd rhaid iddo ennill ei fywoliaeth,” meddai.

Ychwanegodd fod “brand Darwin” wedi datblygu a’i fod “fel rhyw boy band ei gyfnod.”

“Ond doedd Wallace ddim yn dod o’r sefydliad yna. Roedd e wedi ennill pob parch, pob math o fedalau ond doedd pethau fel hynny ddim yn rhy bwysig iddo fe,” meddai.

Mae’n debyg fod y llythyron yn cyfeirio at benderfyniad Wallace i beidio â chael ei ddarlunio gan artist enwog na chwaith ei gladdu yn Abaty San Steffan

Cysylltiad Cymreig

“Fe ddylen ni ymfalchïo yn Wallace,” ychwanegodd Deri Tomos gan nodi ei fod wedi’i eni yn Sir Fynwy; wedi gweithio am gyfnod yn dirfesurydd yn Sir Faesyfed ac wedi cyfeirio at y Gymraeg mewn cyhoeddiadau ddiwedd ei oes gan ddysgu rhywfaint o’r iaith hefyd.

Dywedodd Deri Tomos fod ganddo “edmygedd mawr” at waith y gwyddonydd R Elwyn Hughes sydd wedi cyhoeddi ymchwil manwl ar waith Wallace, sef Gwyddonydd Anwyddonol.