Mae’r BBC wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu buddsoddi degau o filiynau’n ychwanegol mewn rhaglenni i blant er mwyn ymateb i gystadleuaeth gan gwmniau eraill ym myd y cyfryngau.
Yn ôl Prif Gyfarwyddwr y cwmni, Tony Hall, mi fydd £34 miliwn ychwanegol yn cael ei wario ar raglenni plant hyd at 2019/2020 – y buddsoddiad mwyaf i wasanaeth plant y gorfforaeth ers degawdau.
Wrth gyflwyno cynllun y BBC dywedodd Tony Hall bod yn rhaid i’r darlledwr fabwysiadu technoleg newydd a buddsoddi ymhellach yn y ddarpariaeth ar lein.
Llunio diwylliant
“Mae buddsoddi mewn cynnwys Prydeinig – yn enwedig ar gyfer pobol ifanc – yn holl bwysig,” meddai ffynhonnell o’r BBC. “Dydyn ni ddim am i’n diwylliant gael ei lunio gan gwmnïau o America.”
“Yn ogystal â hynny, rydym yn ystyried sut mae technoleg newydd yn medru gwella’r ffordd mae plant ac oedolion yn mynd i’r afael â’n gwasanaethau, ac yn dod o hyd i gynnwys newydd.”
Bydd cynllun newydd y BBC hefyd yn amlinellu sut fydd y darlledwr yn ymateb i heriau eraill gan gynnwys ‘newyddion ffug’.