Y diweddar Tony Bianchi (Llun o'i gyfrif Facebook)
Mae teyrngedau wedi eu talu i’r llenor, Tony Bianchi, a fu farw dros y Sul.
Roedd yn nofelydd o fri ac enillodd sawl gwobr am ei waith, ond mae’r bardd a’r awdur Alan Llwyd yn cofio’r Prif Lenor Tony Bianchi am ei farddoniaeth “gwych a gwreiddiol.”
“Roedd ganddo fo feddwl gwreiddiol iawn ac nid yn unig hynny, roedd ei gynganeddu yn wych. Roedd ei fynegiant yn wych a daeth a rhywbeth newydd i fyd yr englyn. Englynwr penigamp,” meddai Alan Llwyd.
“Enillodd yn y Genedlaethol ddwywaith a chyn hynny enillodd yn Barddas sawl tro. Roedd ei englynion yn wreiddiol iawn ac yn wahanol iawn. Oedd o’n beth braf gweld rhywun yn dod a rhywbeth gwahanol a newydd i mewn.”
“Meddwl yn wahanol”
Fel bardd gwreiddiol mae Alan Llwyd yn clodfori Tony Bianchi am y ffordd yr oedd yn “meddwl yn wahanol i bawb arall” ac yn gweld tebygrwydd gydag arloeswr diweddar arall o fyd barddoniaeth Cymru.
“Roedd yn debyg i T Arfon Williams mewn ffordd, roedd hwnnw’n wahanol ac yn wreiddiol a daeth hwnnw trwy Barddas hefyd,” meddai. “Ac o’n i’n gweld tebygrwydd rhwng y ddau. Nid o ran arddull, roedd eu harddulliau yn wahanol. Ond, mi roedden nhw’n meddwl yn wahanol i bawb arall.
“Roeddech yn gweld yr elfen o ryddiaith ynddyn nhw. Roedden nhw’n aml iawn fel straeon byrion. Oedden nhw’n medru dal rhyw un syniad yn gryno ac yn gofiadwy iawn.”
Cymro o Loegr
Cafodd Tony Bianchi ei fagu yn North Shields yn Tyneside a dysgodd Cymraeg ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan.
Yn ôl Alan Llwyd roedd wedi trochi ei hun yn niwylliant Cymru cymaint, roedd llawer yn cael trafferth cofio mai o Loegr yr oedd yn dod. Yn ei ail iaith y cyhoeddodd y rhan fwyaf o’i lenyddiaeth.
“O’n i’n cael trafferth cofio mai Sais oedd Tony o’n i’n meddwl mai Cymro oedd o yn aml iawn.”