Tŵr Grenfell (Llun: Wikipedia)
Mae goroeswyr y tân yn Nhŵr Grenfell yn Llundain wedi bygwth troi eu cefnau ar yr ymchwiliad i’r digwyddiad oni bai ei fod yn cael ei ehangu.
Dywedodd arweinydd yr ymchwiliad, Syr Martin Moore-Bick ei fod yn “amau” a fyddai’r ymchwiliad yn ddigon eang i ateb holl gwestiynau’r goroeswyr.
Ar hyn o bryd, y disgwyl yw y bydd yr ymchwiliad yn canolbwyntio ar y digwyddiadau a arweiniodd at y tân ar Fehefin 14 a pham y lledodd mor gyflym.
Y diweddaraf
Mae Llywodraeth Prydain eisoes wedi dweud y byddan nhw’n cadw llygad barcud ar Gyngor Kensington a Chelsea wrth i rai alw ar gomisiynwyr i gymryd rheolaeth o’r cyngor.
Mae un o drigolion Tŵr Grenfell yn honni bod arian rhent wedi cael ei dynnu allan o’i chyfri ar ôl y tân.
Ac fe ddaeth i’r amlwg fod un o swyddogion y cwmni oedd wedi creu’r deunydd insiwleiddio yn y tŵr yn ymgynghorydd rheoliadau adeiladu Llywodraeth Prydain.
“Crac iawn, iawn”
Dywedodd un o drefnwyr ymgyrch Grenfell, Yvette Williams fod y teuluoedd yn teimlo’n “grac iawn, iawn” gan eu bod nhw eisiau i’r ymchwiliad ganolbwyntio ar “fethiannau systemig” yn ogystal â’r digwyddiad ei hun.
Dywedodd hi wrth Sky News: “Dydyn nhw ddim yn gallu edrych ar Fehefin 14 yn unig, pan llosgodd yr adeilad yn wenfflam. Allan nhw ddim gwneud hynny.
“Os na chawn ni gylch gorchwyl da ar gyfer yr ymchwiliad cyhoeddus ac os na chawn ni ehangder fel y gall y bobol hynny gymryd cyfrifoldeb am yr hyn maen nhw wedi’i wneud, yna wnawn ni ddim cymryd rhan ynddo.”
Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn ymhlith y rhai sy’n cefnogi’r ymgyrchwyr, ac mae e wedi galw am ymchwiliad mewn dwy ran – y naill yn lleol a’r llall yn genedlaethol.
Cyngor Kensington a Chelsea
Ymddiswyddodd arweinydd y cyngor sir, Nicholas Paget-Brown yn dilyn y tân, ac mae aelodau seneddol wedi croesawu’r penderfyniad hwnnw.
Mae prif weithredwr y cyngor, Nicholas Holgate hefyd wedi gadael ei swydd yn dilyn beirniadaeth o’r cyngor am ei ymateb araf i’r digwyddiad.
Mae lle i gredu bod o leiaf 80 o bobol wedi marw yn y tân.
Mae rhai wedi mynd mor bell ag awgrymu y dylid diddymu Cyngor Kensington a Chelsea yn llwyr.