Mae Cyngor Prydeinig Cymru wedi mynegi pryder ynghylch nifer y disgyblion mewn ysgolion yng Nghymru sy’n dilyn cyrsiau ieithoedd modern tramor.
Yn ôl eu hymchwil, mae llai na 10% o ddisgyblion yn dilyn cwrs mewn iaith fodern darmor mewn traean o ysgolion Cymru, ac maen nhw’n rhybuddio y bydd yn “her” i wyrdroi’r sefyllfa.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod cynlluniau ar y gweill i gynyddu’r niferoedd.
Ymchwil
Yn ôl yr ymchwil, mae llai na phump o ddisgyblion yn dilyn cwrs Uwch Gyfrannol mewn iaith dramor fodern mewn 44% o ysgolion yng Nghymru – 61% yw’r ganran ar gyfer disgyblion Safon Uwch.
Dim ond 64% o adrannau ieithoedd modern tramor yng Nghymru sydd â dau athro llawn amser, ac mae traean o ysgolion yn dibynnu ar athrawon o dramor i lenwi swyddi.
Fe fu gostyngiad o 48% i 6,891 yn nifer y disgyblion ieithoedd modern tramor ar lefel TGAU rhwng 2002 a 2016.
Ar lefel Safon Uwch, fe fu gostyngiad o 44% ers 2001.
Dywedodd adroddiad y Cyngor Prydeinig fod y sefyllfa’n debygol o waethygu yn sgil Brexit a phrinder athrawon – 34% o ysgolion Cymru sy’n ddibynnol ar athrawon o dramor.
Arolwg
Dyma’r trydydd arolwg o sefyllfa ieithoedd modern tramor yn ysgolion uwchradd Cymru.
Cafodd ei gwblhau gan athrawon ieithoedd modern tramor mewn 118 allan o 210 o ysgolion uwchradd.