Dylai gweinidogion Llywodraeth Prydain barchu argymhellion cyrff adolygu cyflogau o ran swyddi’r sector cyhoeddus, yn ôl Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Michael Gove.
Daw ei sylwadau wrth i’r pwysau gynyddu ar Lywodraeth Prydain i ddileu’r terfyn o 1% ar gyflogau’r sector cyhoeddus.
Mewn erthygl ym mhapur newydd y Sunday Times, dywedodd Michael Gove fod “rhaid gwrando” ar yr argymhellion.
“Byddai fy nghydweithwyr sy’n ymdrin â’r cyrff adolygu cyflogau hyn yn dymuno parchu gonestrwydd y broses honno,” meddai.
Hollti barn
Cyrff adolygu annibynnol sy’n gosod y terfyn cyflogau ar bum miliwn o weithwyr y sector cyhoeddus, sydd wedi’i osod ar 1% ers 2013.
Cyn hynny, roedd cyflogau pawb ond y gweithwyr oedd yn derbyn y cyflogau isaf wedi’u rhewi am ddwy flynedd.
Un o addewidion maniffesto’r Ceidwadwyr oedd cynnal y terfyn tan 2020, ond mae rhai aelodau seneddol y blaid yn galw am adolygu’r addewid yn dilyn canlyniadau siomedig y blaid yn yr etholiad cyffredinol brys diweddar, pan gollodd y Llywodraeth ei mwyafrif.
Mae disgwyl i rai cyrff alw am godiad cyflog sy’n mynd y tu hwnt i’r terfyn sydd yn ei le ar hyn o bryd, ac fe fydd cyrff sy’n adolygu cyflogau’r heddlu ac athrawon yn cyflwyno argymhellion y mis yma.
Y llynedd, dywedodd y corff sy’n adolygu cyflogau athrawon fod achos tros gyflwyno cynnydd o fwy nag 1% yng nghyflogau athrawon, ac fe fynegodd corff yr heddlu am ddiflastod ymhlith plismyn ynghylch eu cyflogau.