Jeremy Corbyn
Mae Jeremy Corbyn ar y blaen i Theresa May mewn pôl piniwn newydd sy’n gofyn pwy fyddai’n well gan y cyhoedd ei weld yn brif weinidog gwledydd Prydain.

Mae’r pol gan YouGov/Times yn rhoi arweinydd Llafur ar 35%, a’r arweinydd Ceidwadol ar 34%. Doedd traean o’r rheiny a gafodd eu holi (30%) ddim yn siwr.

Yn ystod y dyddiau cyn yr etholiad brys ar Fehefin 8, roedd Theresa May ar y blaen ar 43% a Jeremy Corbyn ar 32%.

Fe gafodd 1,670 o oedolion eu holi yn rhan o’r pôl, a hynny rhwng Mehefin 21 a 22.