Bydd y tair miliwn dinesydd Ewropeaidd sydd yn byw yng ngwledydd Prydain yn cael aros wedi Brexit, yn ôl cynnig gan Brif Weinidog y Deyrnas Unedig.

Cyflwynodd Theresa May ei chynigion yng nghyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ym Mrwsel, lle’r oedd arweinyddion 27 cenedl yr Undeb Ewropeaidd yn bresennol.

Yn y cyfarfod dywedodd y bydd dinasyddion Ewropeaidd sydd wedi byw ym Mhrydain am dros bum mlynedd yn derbyn statws arbennig fydd yn rhoi’r un hawliau iddyn nhw â dinasyddion Prydeinig.

Mi fydd dinasyddion Ewropeaidd sydd eisoes yn byw ym Mhrydain ond heb fyw yn y wlad am bum mlynedd yn medru aros tan iddyn nhw dderbyn y statws arbennig yma.

Ond, ni fydd y ddêl ar gael i fewnfudwyr sydd yn cyrraedd ar ôl dyddiad penodol – dyddiad sydd heb gael ei gyhoeddi gan Downing Street eto.

“Miloedd o gwestiynau”

Dywedodd Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, fod y cynnig yn “ddechrau da” ond rhybuddiodd bod angen ymdrin â “llawer o faterion” cyn y gall dêl Brexit cyflawn gael ei sefydlu.

Gwnaeth Prif Weinidog yr Iseldiroedd nodi fod y cynigion yn “codi miloedd o gwestiynau” a rhybuddiodd Canghellor Awstria, Christian Kern, mai “cam cyntaf” oedd y cynllun.