Mae British Airways wedi canslo pob taith awyren o feysydd awyr Gatwick a Heathrow wrth i broblemau cyfrifiadurol darfu ar y cwmni ledled y byd.
Caiff teithwyr eu rhybuddio i beidio â theithio i feysydd awyr Llundain oherwydd tagfeydd eithafol yno.
Ni fydd unrhyw deithiau a oedd i fod i gychwyn cyn 6pm heno yn digwydd.
“Rydym yn dioddef methiant difrifol yn ein system Technoleg Gwybodaeth sy’n tarfu ar ein teithiau awyr ledled y byd,” meddai llefarydd ar ran British Airways.
Ychwanegodd fodd bynnag nad oes unrhyw dystiolaeth o ymosodiad seibr.
Daw’r anawsterau wrth i filoedd o bobl o Brydain heidio dramor dros ŵyl y banc a gwyliau’r ysgol.